Gwe dywyll

Gwe dywyll
Tor. Logo'r meddalwedd
Enghraifft o'r canlynolproblem gymdeithasol, ffynhonnell risg Edit this on Wikidata
Mathcynnwys y we Edit this on Wikidata
Rhan ogwe ddofn, darknet Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata

Rhan o'r We Fyd Eang yw'r we dywyll (Saesneg: the dark web), sy'n bodoli ar darknets: rhwydweithiau o droshaenu (darknets: overlay networks) sy'n defnyddio'r Rhyngrwyd ond sydd angen meddalwedd neu ganiatad penodol i gael mynediad.[1][2][3] Trwy'r we dywyll, gall rhwydweithiau cyfrifiadurol preifat gyfathrebu a chynnal busnes yn ddienw heb ddatgelu gwybodaeth am y defnyddiwr, megis lleoliad.[4][5] Mae'r we dywyll yn ffurfio rhan fechan o'r we ddofn, y rhan o'r We nad yw wedi'i mynegeio gan beiriannau chwilio'r we, er weithiau defnyddir y term gwe ddofn ar gam am y we dywyll.[6][7]

Mae'r rhwydi tywyll (darknets) sy'n ffurfio'r we dywyll yn cynnwys rhwydweithiau cymar i gymar bychan, ffrind-i-ffrind, yn ogystal â rhwydweithiau mawr, poblogaidd fel Tor, Freenet, I2P, a Riffle a weithredir gan sefydliadau cyhoeddus ac unigolion.[5] Mae defnyddwyr y we dywyll yn cyfeirio at y we arferol fel Clearnet oherwydd nad yw wedi ei hamgryptio.[8] Mae gwe dywyll Tor neu onionland[9] yn defnyddio'r dechneg o draffig anhysbys-dienw o lwybro nionyn (Saesneg: onion routing) o dan ôl -ddodiad parth lefel uchaf y rhwydwaith .onion.

  1. "Going Dark: The Internet Behind The Internet". npr.org. 25 Mai 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2015. Cyrchwyd 29 Mai 2015.
  2. "Clearing Up Confusion – Deep Web vs. Dark Web". BrightPlanet. 2014-03-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-16.
  3. Egan, Matt (12 January 2015). "What is the dark web? How to access the dark website – How to turn out the lights and access the dark web (and why you might want to)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2015. Cyrchwyd 18 Mehefin 2015.
  4. Ghappour, Ahmed (2017-09-01). "Data Collection and the Regulatory State". Connecticut Law Review 49 (5): 1733. https://scholarship.law.bu.edu/faculty_scholarship/255.
  5. 5.0 5.1 Ghappour, Ahmed (2017-04-01). "Searching Places Unknown: Law Enforcement Jurisdiction on the Dark Web". Stanford Law Review 69 (4): 1075. https://scholarship.law.bu.edu/faculty_scholarship/204.
  6. Solomon, Jane (6 Mai 2015). "The Deep Web vs. The Dark Web: Do You Know The Difference?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2015. Cyrchwyd 26 Mai 2015.
  7. "The dark web Revealed". Popular Science. tt. 20–21.
  8. "Clearnet vs hidden services – why you should be careful". DeepDotWeb. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2015. Cyrchwyd 4 Mehefin 2015.
  9. Chacos, Brad (12 August 2013). "Meet Darknet, the hidden, anonymous underbelly of the searchable Web". PC World. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 August 2015. Cyrchwyd 16 August 2015.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search